Y prosiect Rhwydweithiau Natur Dyffryn Gwy Isaf

Yn hydref 2021, llwyddom i sicrhau cymorth ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i weithredu ein prosiect Rhwydweithiau Natur Dyffryn Gwy Isaf, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gwent a Coed Cadw.

Bydd yr arian yn helpu i wella cyflwr cyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn Nyffryn Gwy isaf rhwng Trefynwy a Chas-gwent, ar yr ochr sy’n perthyn i Gymru. Byddwn yn gweithio yn yr ardal wledig ehangach i wella cysylltiadau rhwng y safleoedd arbennig er mwyn caniatáu i rywogaethau symud fwy ar draws y dirwedd. Byddwn yn mynd i’r afael hefyd â rhywogaethau estron goresgynnol, nid yn unig lle maen nhw’n digwydd ar safleoedd SoDdGA, ond ar draws ardal ehangach ein prosiect.

Rheoli safleoedd SoDdGA
Bydd ein partneriaid, Ymddiriedolaeth Natur Gwent a Coed Cadw, yn gwneud gwaith rheoli hanfodol ar Safleoedd Coetir a Glaswelltir SoDdGA, yn cyfoethogi cynefinoedd y mannau arbennig hyn, ac yn rhoi cynlluniau hirdymor yn eu lle i sicrhau bod y gwaith rhagorol hwn yn parhau. Bydd hyn yn cynnwys gwaith cadwraeth ymarferol i greu cynefinoedd mwy amrywiol a gwydn, pori cadwraethol, amddiffyn rhag gor-bori gan geirw, gwaith rheoli coed, creu perllannau, tirfesur a monitro. Bydd gwelliannau i fynediad hefyd ar nifer o safleoedd er mwyn galluogi pobl i fwynhau cefn gwlad yn well. Mae tîm AHNE Dyffryn Gwy’n arwain y gwaith pwysig o reoli rhywogaethau estron goresgynnol, ar y cyd â pherchnogion tir eraill ar safleoedd SoDdGA, gan gynnwys gwaith i reoli Clymog Japan a’r Goeden Lawrgeirios.

Cysylltu cynefinoedd pwysig â’i gilydd
Rydym hefyd yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr eraill i ganfod cyfleoedd i gysylltu cynefinoedd â’i gilydd, megis gwella gwrychoedd, plannu coed, a gwaith arall er budd y bywyd gwyllt, gan weithio ochr yn ochr â busnesau amaethyddol cynhyrchiol.

Os oes gennych dir, ac eithrio gerddi preifat, yn ardal y prosiect ac rydych yn gallu meddwl am unrhyw waith i wella gwrychoedd, coetir neu laswelltir sy’n gyfoeth â rhywogaethau, mae croeso i chi gysylltu ag Ellie (naturerecovery@wyevalleyaonb.org.uk) neu Nick (development@wyevalleyaonb.org.uk) yn y tîm AHNE i drafod eich syniadau a’ch cymhwysedd i gael cymorth ariannol.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Llywodraeth Cymru / Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth werthfawr iawn gyda’r prosiect hwn, sy’n rhedeg drwy gydol 2022 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2023.

Menu